
Blodau Priodas Cynaliadwy


Blodau priodas hardd, wedi'u tyfu yng Nghymru
Mae ein blodau priodas yn gwbl wahanol i duswau generig llawn blodau wedi'u hallforio. Mae ein blodau’n unigryw, yn dymhorol ac wedi'u tyfu'n lleol gennym ni a chan dyfwyr gwych o Brydain - yn duswau llawn amrywiaeth, gwead, ffresni, arogl a'r gorau o liwiau Prydain.
Os ydych chi am gael rhywbeth syml, benywaidd a chain, neu liwiau cryf llachar - rydym am sicrhau mai'r blodau a gewch gennym ni yw blodau priodas eich breuddwydion!
Ein cred ni yw na ddylech chi orfod aberthu prydferthwch i fod yn gynaliadwy, felly rydym yn ymdrechu i gynnig y dyluniadau blodeuog harddaf a mwyaf trawiadol heb niweidio'r ddaear. Rydym yn gwmni gwerthu blodau cwbl ddi-sbwng - heb ddefnyddio unrhyw sbwng blodau gwenwynig wrth ein gwaith, a chan ddefnyddio deunyddiau naturiol a mecanwaith y gellir ei ailddefnyddio yn lle hynny.
Rydyn ni'n teimlo'n angerddol ynghylch defnyddio blodau tymhorol wedi'u tyfu ym Mhrydain i greu dyluniadau priodas wedi'u hysbrydoli gan harddwch y byd o'n cwmpas. Does dim byd gwell. Y siapiau, yr arogleuon, y lliwiau - rydyn ni'n gyffro i gyd ond yn meddwl amdanyn nhw! Wrth ddefnyddio blodau mor brydferth, gallwn adael iddyn nhw wneud y gwaith i gyd!
Mae natur yn ei saernïo ei hun i fodloni ei hanghenion a'i hamgylchiadau, a dyna'r hyn a wnawn ar eich cyfer chi. Mae pob blodyn y bydd planhigyn yn ei dyfu yn wahanol ac unigryw, yn union fel ein cyplau hyfryd sy'n priodi. Rydyn ni wrth ein bodd yn adlewyrchu'r wedd unigryw hon yn ein dyluniadau, gan eu gwneud yn wirioneddol bersonol a rhoi adlewyrchiad perffaith o hanes eich cariad chi. Yn gwbl wahanol i flodau generig, ffurfiol wedi'u hallforio.
Ac i goroni'r cyfan... Gan fod ein blodau'n dymhorol, byddwch yn gallu dathlu pen-blwyddi yn y dyfodol drwy dyfu'r un blodau a oedd yn nhrefniadau eich diwrnod priodas, neu flodau tebyg, yn eich gerddi eich hunain, neu eu hailarchebu gennym ni, i ail-greu atgofion hudolus.
Ein Hopsiynau ar gyfer Blodau Priodas
Rydym yn cynnig tri opsiwn ar gyfer ein gwasanaeth blodau priodas. Mae croeso ichi fwrw golwg ar y taflenni gwybodaeth rydym wedi'u hatodi isod. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siŵr pa opsiwn fyddai'n gweddu i chi - llenwch ein ffurflen ymholi a gallwn eich helpu i benderfynu.
Blodau Priodas wedi'u Cynllunio'n Arbennig
Dyma'r opsiwn perffaith i gyplau sy'n chwilio am flodau tymhorol trawiadol ar gyfer eu trefniadau a'u lleoliad priodas.
Bydd ymgynghori â chi wyneb yn wyneb yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n mynd â'ch bryd, eich lleoliad a steil eich priodas. Byddwn yn creu blodau unigryw, personol, gan gynnwys gosodiadau graddfa fawr a darnau trawiadol. Drwy drefnu bod y blodau'n cael eu danfon a'u gosod yn y lleoliad a ddewiswyd gennych, bydd eich gweledigaeth flodeuog yn dod yn fyw yn ddi-straen, a byddwn yn tynnu'r cyfan oddi wrth ei gilydd ar ôl hynny, ichi gael ymlacio ar y diwrnod canlynol.
Er mwyn cynnig y gwasanaeth mwyaf cynhwysfawr i'r cyplau sy'n dewis y gwasanaeth cynllunio arbennig, rhaid gwario isafswm o £1500 am y gwasanaeth hwn.
Mae'r opsiwn hwn wedi'i gynllunio i gyplau sy'n mynd i ffwrdd i briodi, ar gyfer priodasau llai, i rai sy'n gwylio'u cyllideb, neu rai sydd am ddangos eu crefft eu hunain wrth drefnu blodau, ac na fydd arnynt angen gwasanaeth gosod ar-safle na gosodiadau wedi'u cynllunio'n arbennig.
Mae ein hopsiwn Llafur Cariad yn cynnig blodau tymhorol trawiadol mewn cynllun lliwiau ac arddull o'ch dewis chi. Gyda dewislen A La Carte o opsiynau o ran blodau (a phrisiau tryloyw) - gan gynnwys tuswau, blodau'r parti priodas, y byrddau, yr ystlysau a'r lleoliad a bwcedi DIY.
Does dim rhaid gwario isafswm am ein gwasanaeth Tuswau a Bwcedi.
Yn ddelfrydol i gyplau sy'n fedrus wrth drefnu blodau, ac sydd am dreulio'r diwrnod cyn eu priodas gyda'u ffrindiau a'u teulu yn creu arddangosiadau. Byddwn yn gadael yr holl waith trefnu i chi, ac yn rhoi'r holl flodau prydferth sydd eu hangen arnoch i greu rhywbeth sy'n wirioneddol unigryw.
Nid yw mor anodd ag yr ydych chi'n ei feddwl, a byddaf ar gael i roi cyngor dros e-bost os oes angen, ac i'ch cynghori ynghylch faint o fwcedi y bydd eu hangen arnoch.
Gallwn drefnu gweithdai i chi a'ch ffrindiau a'ch perthnasau gael dysgu sut i drefnu blodau priodas; gallwch hyd yn oed gynnwys hyn yn rhan o'ch parti plu/noson geiliogod.
Does dim rhaid gwario isafswm ar gyfer yr opsiwn hwn.