
Gwaith Comisiwn
Gweithiau Comisiwn yn Firth Flock Flowers
Yn Firth Flock Flowers, rydym yn cynnig gweithiau comisiwn o flodau wedi'u cynllunio'n arbennig i'r rhai sy'n chwilio am rywbeth cwbl unigryw i gyd-fynd â'u gweledigaeth. Os ydych chi'n chwilio am osodiad blodau nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen, trefniad ar archeb ar gyfer digwyddiad arbennig, neu rywbeth cwbl wahanol, byddwn wrth ein bodd yn gweithio ar brosiectau creadigol a fydd yn dod â'ch syniadau'n fyw. Yma yng nghefn gwlad Dyffryn Clwyd, rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch tyfu blodau tymhorol yn lleol a'u defnyddio i lunio arddangosiadau sy'n adlewyrchu harddwch natur ar ei orau.
Beth rydyn ni'n ei gynnig
Mae ein gwaith comisiwn yn berffaith ar gyfer:
Digwyddiadau Arbennig:
O'r pen-blwyddi carreg filltir i ben-blwyddi priodas, gadewch inni ddylunio rhywbeth anhygoel ar gyfer eich dathliad.
Cydweithio â Busnesau:
Byddwn yn gweithio gyda busnesau, lleoliadau a chynllunwyr digwyddiadau lleol i greu arddangosiadau blodau sy'n dal y llygad ac yn creu argraff barhaol.
Gosodiadau:
Eisiau rhywbeth mawreddog fydd yn syfrdanu? Boed yn ddarn ar gyfer oriel, blaen siop neu ofod preifat, rydym yn arbenigo mewn dylunio gosodweithiau blodau graddfa fawr.
Gwaith Golygyddol a Sesiynau Tynnu Lluniau:
Rydym yn darparu blodau wedi'u teilwra ar gyfer sesiynau tynnu lluniau mewn steil arbennig, erthyglau mewn cylchgronau a chynnwys hyrwyddo, wedi'u cynllunio i gyd-fynd â delwedd eich brand.
Sut mae'n gweithio
-
Ymgynghoriad Cychwynnol: Byddwn yn sgwrsio â chi i ddechrau er mwyn deall eich gweledigaeth, yr achlysur a'r arddull sy'n mynd â'ch bryd. Os oes gennych chi syniad penodol, neu os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, rydym yma i'ch tywys drwy'r broses.
-
Cynnig Dyluniad: Ar sail ein trafodaeth, byddwn yn creu cynnig am ddyluniad wedi'i deilwra, yn cynnwys dewisiadau o ran blodau, lliwiau a throsolwg o'r prosiect. Byddwn bob amser yn rhoi'r flaenoriaeth i ddefnyddio'r blodau mwyaf ffres, o ffynhonnell leol, sydd ar gael o'n caeau blodau.
-
Creu: Cyn gynted ag y bo'r dyluniad wedi'i gymeradwyo, byddwn yn mynd ati i lunio eich blodau comisiwn. Byddwn yn rhoi sylw i fanylder gyda phob trefniad, gan sicrhau bod pob elfen yn cyd-fynd â'ch gweledigaeth.
-
Danfon a Gosod: Yn dibynnu ar faint y prosiect, gallwn drefnu i ddanfon a gosod y blodau, gan sicrhau bod eich arddangosiadau'n edrych yn berffaith ar gyfer eich digwyddiad neu leoliad.
Prisiau ac Amseroedd Paratoi
Mae pob comisiwn yn unigryw, felly bydd y prisiau'n amrywio ar sail maint, cymhlethdod a'r dewis o flodau. Ar gyfer gosodiadau graddfa fawr a dyluniadau arbennig, argymhellir eich bod yn archebu mor fuan ag sy'n bosibl, yn enwedig yn ystod y tymor prysuraf ar gyfer priodasau. Efallai y bydd angen llai o amser paratoi ar gyfer gweithiau comisiwn llai, ond fe'ch anogir i archebu'n fuan bob tro i sicrhau bod blodau penodol ar gael.
​
Beth am Wireddu eich Gweledigaeth
Yn Firth Flock Flowers, rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch gwireddu blodau eich breuddwydion. I drafod eich syniadau a dechrau eich comisiwn blodau, cysylltwch â ni heddiw am ymgynghoriad. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gydweithio â chi i greu rhywbeth sy'n wirioneddol hardd a bythgofiadwy.