
Tuswau a Bwcedi
Yn Firth Flock Flowers, rydym yn ymfalchïo mewn darparu Blodau Cynaliadwy i Gyplau Lleol
Hoffem gyflwyno gwasanaeth "Tuswau a Bwcedi" Firth Flock Flowers - gwasanaeth blodau syml À La Carte wedi'i ddylunio i lyfnhau'r gwaith o gynllunio eich priodas. Rydym wedi'n lleoli yn Rhuthun, ac yn cynnig ystod o opsiynau wedi'u cynllunio'n arbennig, o duswau wedi'u llunio a llaw a blodau twll botwm i fwcedi llawn blodau ffres er mwyn creu eich gosodiadau eich hun. Os yw'n well gennych chi liwiau niwtral clasurol, neu os yw lliwiau llachar y tymor yn mynd â'ch bryd, bydd pob tusw wedi'i gynllunio'n arbennig i gyd-fynd â'ch palet o liwiau a'i orffen gyda rhuban hardd wedi'i llifo â llaw neu hessian.
Ar gyfer eich parti priodas, rydym yn cynnig tuswau, blodau twll botwm, corsages a mwy. Bydd y cyfan yn cyd-asio â'i gilydd, gan sicrhau naws gydlynol ac urddasol i'ch diwrnod arbennig. I ychwanegu at eich lleoliad, dewiswch o blith ein fasys deniadol i greu arddangosiadau canol bwrdd, neu ddewis ein bwcedi blodau i greu eich trefniadau naturiol eich hun. Gyda Firth Flock Flowers, gallwch greu casgliad o flodau sy'n cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth eich priodas.

Sut Mae'n Gweithio
Yn cyflwyno ein gwasanaeth "Llafur Cariad" - dewislen A Lá Carte o flodau. Ewch ati i gynllunio eich blodau priodas yn rhwydd, gan ddethol o blith amrywiaeth o duswau, blodau twll botwm, fasys, a bwcedi wedi'u llenwi â blodau i greu casgliad arbennig sy'n cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth eich priodas.
Blodau'r Briodferch
Gadewch inni saernïo tusw hardd ar eich cyfer - os yw'n well gennych chi liwiau niwtral, lliwiau llachar, neu gyfuniad o flodau tymhorol, gallwn sicrhau bod pob tusw yn unigryw ac yn cyd-fynd yn llwyr â'r naws a'r palet o liwiau rydych chi wedi'i ddewis. Caiff ein tuswau eu gorffen â sidan wedi'i lifo â llaw/felôr/rhuban/hessian a'u darparu mewn jariau gwydr fel eu bod mor ffres ag sy'n bosibl
Blodau i Addurno Lleoliad
I ategu blodau arbennig y briodferch, gallwch ddefnyddio blodau twll botwm urddasol, tuswau i'r morwynion, corsages ac ychwanegiadau eraill i'r parti priodasol. Bydd y manylion cain hyn yn ychwanegu elfen gydlynol at ddiwrnod eich priodas
Blodau i'r Parti Priodasol
I ategu blodau arbennig y briodferch, gallwch ddefnyddio blodau twll botwm urddasol, tuswau i'r morwynion, corsages ac ychwanegiadau eraill i'r parti priodasol. Bydd y manylion cain hyn yn ychwanegu elfen gydlynol at ddiwrnod eich priodas
Blodau mewn Bwcedi
Gallwch ddewis bwcedi blodau 'creu eich hun' i ychwanegu ychydig o fyd natur at eich lleoliad a'ch/neu'ch seremoni. Perffaith ar gyfer trefniadau DIY neu i addurno ardaloedd allweddol y dathliad â jariau jam a fasys blagur
Does dim rhaid gwario isafswm am ein gwasanaeth Llafur Cariad!