top of page

Tymhorol  / 100% Prydeinig  / Cynaliadwy

DANFONIAD POST AR GAEL

SUT MAE EIN SIOP YN GWEITHIO 

Sut i Archebu 

Gallwch chi archebu naill ai drwy anfon e-bost atom, ein ffonio, neu drwy archebu yn ein siop ar-lein. Pan fyddwch chi'n archebu, cofiwch nodi pryd yr hoffech chi dderbyn eich blodau yn y nodiadau wrth dalu. Rydym yn casglu ein blodau'n ffres y noson gynt, fel eu bod ar eu gorau, ac yn para mor hir ag sy'n bosib yn eich cartref.

Dosbarthu/Casglu 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig casgliadau o'r fferm flodau ger Llanfair DC, Rhuthun. Bydd cyfeiriad y fferm wedi'i gynnwys yn yr e-bost a anfonir atoch i gadarnhau eich archeb.
Gallwch hefyd ddewis danfoniad lleol am ddim i ardal Rhuthun; rhowch wybod inni beth fyddai orau gennych yn nodiadau eich archeb wrth dalu. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drafod yr opsiynau.
Anfonir ein harchebion post drwy wasanaeth track24 y Post Brenhinol; bydd yr archeb yn cyrraedd o fewn 24 awr ac yn cael ei olrhain bob cam o'r ffordd. Sylwch nad ydym ond yn anfon blodau ffres i gyrraedd ar ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.

Os ydych chi eisiau gwneud archeb munud olaf, ffoniwch ni a gwnawn ein gorau i'ch helpu. 

Ein Trefniadau

Mae ein dyluniadau'n arddangos yr hyn sy'n edrych ar ei orau wrth ichi archebu. Maent yn cynnwys y gorau o blith blodau organig tymhorol Prydain, a'r cyfan wedi'i dyfu yma ar y fferm. 
Gallwn weithio o fewn cynllun lliwiau bras, ond ni allwn addo unrhyw liwiau nag amrywiaethau penodol o flodau. Byddwn bob amser yn ceisio bodloni ceisiadau er hynny, felly cofiwch sôn am unrhyw gais yn nodiadau eich archeb wrth dalu, neu anfon e-bost uniongyrchol atom.

Lapio Anrhegion 

Ein dull lapio safonol yw defnyddio papur llwyd a'i glymu â chortyn cywarch. Cedwir ein holl flodau a anfonir drwy'r post mewn deunydd hydradu compostadwy.

Gellir compostio 100% o'n deunydd pecynnu, felly cofiwch ei roi ar eich compost/yn eich bin gwastraff bwyd gartref.

  • Facebook
  • Instagram
FFF-4.jpg
bottom of page