
Blodau Angladd
Pan fydd y blodau cywir o bwys go iawn
Pan fydd y blodau cywir o bwys go iawn
Weithiau gall blodau ddweud mwy na geiriau ar adegau anodd. Rydym yn creu blodau angladd personol, unigryw wedi'u cynllunio'n arbennig, gan seilio ein gwasanaeth ar sgwrs, yn lle catalog. Byddaf yn dechrau drwy drafod eich anghenion a'ch syniadau i greu trefniadau blodau sy'n adlewyrchu'r tymhorau. Mae ein blodau yn gwbl wahanol i flodau angladd generig ddaw o gatalog sy'n llawn blodau wedi'u hallforio. Maen nhw'n unigryw, yn dymhorol ac wedi'u tyfu'n organig yng nghae blodau Firth Flock - yn gyforiog o amrywiaeth, gwead, ffresni, arogl a'r gorau o Brydain.
Yn unol â'n hethos, os oes angen inni gael hyd i flodau, nid ydym ond yn cefnogi ffermydd organig eraill yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi'r rhyddid inni greu rhywbeth sy'n wirioneddol unigryw ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, gan adlewyrchu harddwch pob tymor.
Gallwn hefyd ddefnyddio blodau o'ch gardd chi neu ardd eich anwylyd i greu rhywbeth personol sy'n llawn ystyr.
Mae ein holl ddyluniadau'n gompostadwy, yn ecogyfeillgar ac yn addas ar gyfer mannau claddu naturiol. Mae gennym hefyd opsiynau ar gyfer blodau angladd y gellir eu tynnu oddi wrth ei gilydd yn rhwydd i berthnasau a ffrindiau gael mynd â nhw adref. Gallwn hefyd gynnwys planhigion byw a bylbiau i'w hailblannu ar y bedd neu yng ngerddi anwyliaid.
Rydym yma i'ch tywys a'ch cefnogi bob cam o'r ffordd. Mae ein prisiau'n dryloyw, felly gallwch gadw o fewn eich cyllideb wrth anrhydeddu eich anwyliaid.
Mae croeso ichi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. Does yr un cwestiwn yn rhy bitw na thwp. Gallwch gysylltu â ni ynfirthflockflower@icloud.com neu ar 07714 446091
Edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda chi…

Sut mae'n gweithio
Blodau angladd - sut rydw i'n gweithio
Gan weithio o fy stiwdio ar y fferm, rwy’n tyfu llawer o’m blodau fy hun ac yn arbenigo mewn defnyddio cynhwysion tymhorol lle bynnag y bo modd. Byddaf yn fwy na pharod i gwrdd â chi gartref i drafod blodau, neu gallwch ddod i'r fferm. Rhaid trefnu apwyntiad i ymweld, gan fy mod yn aml allan yn danfon archebion neu'n gweithio ar y tir. Gallwn hefyd sgwrsio dros y ffôn/drwy alwad fideo.
Gallaf ddefnyddio hoff liwiau, ac os ydych chi'n byw'n lleol yn Rhuthun, gallaf gasglu blodau o ardd sy'n agos at eich calon. Byddaf bob amser yn anelu i'ch helpu i gael hyd i'r cynhwysyn arbennig hwnnw fydd yn gwneud i'r blodau adlewyrchu eich anwylyd.
Danfon Blodau Angladd
Rwy'n darparu blodau angladd naturiol, fel pe baent wedi'u casglu o'r ardd, o amgylch Gogledd Cymru. Gallaf ddanfon fy holl drefniadau angladd atoch chi'n bersonol neu at ymgymerwr o'ch dewis (codir tâl ychwanegol am hyn), neu mae croeso ichi archebu a chasglu eich blodau angladd o'r fferm ger Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.
Sut i Archebu
I archebu, cysylltwch â mi i drafod eich syniadau, eich gofynion a'ch manylion danfon. Ar ôl derbyn eich archeb, bydd anfoneb yn cael ei pharatoi. Derbynnir taliadau trwy drosglwyddiad banc neu gerdyn. Rhaid talu'n llawn am unrhyw drefniadau sydd i'w casglu wrth eu harchebu.
Dylai blodau fod yn arbennig, felly os oes unrhyw beth yr hoffech chi ei gael nad yw wedi'i gynnwys ar fy ngwefan, mae croeso ichi gysylltu â mi i drafod y posibiliadau. Rwyf wrth fy modd yn datblygu syniadau newydd ac yn aml yn gweld mai dyma sut mae'r blodau angladd hyfrytaf yn cael eu creu.
Drwy gydol yr holl broses, nid ydym ond neges e-bost neu alwad ffôn i ffwrdd, felly mae croeso ichi gysylltu â ni ar firthflockflowers@icloud.com neu godi'r ffôn:
07714 446091
