
Blodau Priodas wedi'u Cynllunio'n Arbennig
Yn Firth Flock Flowers, rydym yn ymfalchïo mewn darparu Blodau Cynaliadwy i Gyplau Lleol
Yn Firth Flock Flowers, Rhuthun, credwn y dylai blodau eich priodas fod mor unigryw â’ch stori garu. Bydd pob tusw wedi'i lunio'n feddylgar i adlewyrchu'ch steil, eich dewis o liwiau, a harddwch y tymor, gan ddefnyddio blodau wedi'u tyfu ym Mhrydain o ffynonellau lleol yn unig.
O duswau priodas wedi'u gorffen â llaw i greadigaethau wedi'u cynllunio'n arbennig i'ch morwynion priodas, eich morwynion bach a'ch hoff anifeiliaid anwes hyd yn oed. Byddwn yn ychwanegu elfen o hud i bob aelod o'ch parti priodas.
Ar gyfer y priodfab, rydym yn cynnig blodau twll botwm neu opsiynau modern fel cadwynau blodeuog neu flodau poced trendi, gan sicrhau bod pob manylyn yn creu naws arbennig.
Ychwanegwch rin at leoliad eich priodas gyda'n canolbwyntiau trawiadol, bwâu seremonïol gwefreiddiol, a darnau arbennig bythgofiadwy fel cymylau o flodau a gosodiadau crog. Mae cynaliadwyedd yn greiddiol inni, felly caiff ein holl drefniadau eu saernïo heb sbwng blodau, drwy ddefnyddio deunyddiau compostadwy ac ailddefnyddadwy. Gadewch i Firth Flock Flowers droi eich breuddwydion priodas yn wefr o flodau hudolus na fydd eich gwesteion fyth yn eu hanghofio.

Blodau wedi'u Cynllunio'n Arbennig
Blodau priodas hardd, unigryw a thymhorol sy'n cyd-fynd â'ch dewisiadau o ran steil, lleoliad a lliwiau
Cyswllt parhaus drwy WhatsApp ac e-bost, a thros y ffôn i drafod y manylion drwy gydol y broses o gynllunio eich blodau priodas
Y dewis o ruban sidan o unrhyw liw wedi'i lifo â llaw neu ruban hesian ar gyfer pob tusw o flodau personol wedi'i gynnwys yn safonol
Gwasanaeth tynnu gosodiadau i lawr ar y diwrnod canlynol, gan gynnwys creu tuswau i westeion fynd adref gyda nhw
Dau ymgynghoriad wyneb yn wyneb neu dros zoom (gellir cynnal un ohonynt yn y lleoliad os dymunir), a gallwn gynnig mwy o ymgyngoriadau am dâl ychwanegol.
Caiff fasys eu cynnwys gyda'r holl duswau i'w cadw ar eu gorau drwy gydol y dydd.
Opsiynau dylunio blodau a llogi ychwanegol, a lefel uwch o wasanaeth. Yn cynnwys fasys wedi'u creu'n arbennig gan grochenydd lleol.
Blodau wedi'u gosod yn fflat yn rhad ac am ddim i'ch ffotograffydd gael dal manylion a thynnu lluniau i'w trysori.
Sylwch fod yn rhaid archebu isafswm o £1500 ar gyfer blodau priodas wedi'u cynllunio'n arbennig. Am opsiwn rhatach, edrychwch ar ein pecyn 'Llafur Cariad' (dolen ar ein gwefan)