
Bwcedi o Flodau Creu Eich Hun
Yn Firth Flock Flowers, rydym yn ymfalchïo mewn darparu Blodau Cynaliadwy i Gyplau Lleol
Yn Firth Flock Flowers yn Rhuthun, mae ein Bwcedi Blodau DIY yn berffaith i gyplau creadigol sydd am ddylunio'u trefniadau priodas eu hunain. Mae pob bwced yn costio £95 ac yn cynnwys dros 80 o goesynnau, gan gynnwys cymysgedd hyfryd o flodau, deiliach a gweiriau. Os ydych chi am greu arddangosiadau wedi'u hysbrydoli gan ffrwythlonder y goedwig neu â'ch bryd ar thema fwy blodeuog, gallwn gynllunio cymysgedd arbennig i gyd-fynd â'ch gweledigaeth.
Mae ein bwcedi yn cynnig detholiad o "ddewis y tyfwr", ac yn cynnwys blodau gorau'r tymor o'n caeau yng Nghymru. Er na allwn addo darparu amrywiaethau penodol oherwydd natur annarogan tyfu yn yr awyr agored, byddwn yn hapus i weithio'n unol â chynllun lliwiau bras.
I'ch helpu i gynllunio rydym wedi rhoi canllaw ichi i amcangyfrif faint o goesynnau fydd eu hangen ar gyfer trefniadau amrywiol - o flodau'r briodferch i'r fasys mwy. Os ydych chi'n ansicr, byddwn yn fwy na pharod i ymgynghori dros y ffôn, i drefnu ymweliad â'r fferm, neu hyd yn oed i gynnal gweithdai preifat i'ch parti priodasol er mwyn sicrhau bod popeth yn mynd yn llyfn.
Gan ddefnyddio ein Bwcedi o Flodau Creu Eich Hun, gallwch ychwanegu cyffyrddiad personol i'ch diwrnod arbennig drwy greu eich arddangosiadau eich hun o'r blodau mwyaf ffres wedi'u tyfu'n lleol.
