top of page

FY STORI

Ellen ydw i, ac ar ôl dwy flynedd o dyfu’n rhan-amser cymerais naid ffydd yn 2022 a dechrau ffermio a thrin blodau yn llawn amser. Dyma'r penderfyniad gorau a wnes erioed yn fy mywyd; rwy'n teimlo mor angerddol am flodau ac am ddylunio blodau. Does dim teimlad gwell na gweld wynebau pobl yn goleuo wrth dderbyn tusw o flodau yr wyf wedi'u meithrin o'r hedyn i'r blodyn.Mae cynaliadwyedd yn greiddiol i'm busnes, ac mae fy holl flodau'n cael eu tyfu'n organig, mewn harmoni â bywyd gwyllt. Mae fy mrid prin o hwyaid Harlequin Cymreig yn gweithredu fel dull naturiol o reoli pla, gan gadw'r gwlithod draw, a diadell fy nheulu o ddefaid Mynydd Du Cymreig brodorol sy'n darparu'r gwrtaith ar gyfer y blodau.

AC7T1820.jpg

YNGLŶN  FIRTH FLOCK FLOWERS

Rwyf wedi sylweddoli bod blodau yn gallu cael effaith anhygoel ar bobl. 
Mae pob blodyn yn adrodd stori, o'r tro yn ei goesyn lle bu'n ymgyrraedd am y golau hyd at ei ddail brith sy'n dangos ôl y tywydd.Gall pob tusw greu naws neu awyrgylch, gan grisialu eiliad mewn amser.
Fel ffermwr a gwerthwr blodau rwy'n cael y cyfle i adrodd stori, gan feithrin blodau o'r hadau bychain hyd at eu gogoniant llawn. Mae'n broses sy'n fy llenwi â chymaint o lawenydd ac ymdeimlad o gyflawniad. 

Firth Flowers-138.jpg

BLODAU 100% PRYDEINIG, WEDI'U TYFU GARTREF AC YN GYNALIADWY

Rwy'n teimlo'n angerddol am ddarparu blodau wedi'u tyfu'n lleol i bobl leol.Rwyf wrth fy modd yn dangos i bobl y gall blodau Prydeinig fod yn brydferth, gan ddangos ei bod hi'n bosib tyfu blodau'n organig, mewn harmoni â'r bywyd gwyllt sydd o'n cwmpas ni yng Ngogledd Cymru.

Mae fy holl flodau wedi'u tyfu gartref, wedi'u meithrin o'r hedyn i'r blodyn gen i. Mae hyn yn golygu fy mod yn gallu cynnwys mwy o amrywiaeth wrth ddylunio ar gyfer priodasau a chreu tuswau rhodd, gan nad oes rhaid i'r blodau rwy'n eu defnyddio fod yn ddigon gwydn i oroesi taith mewn awyren, yn wahanol i'r blodau yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd / siopau blodau. Mae gallu tyfu a defnyddio’r fath amrywiaeth o flodau yn rhoi naws chwareus i'm dyluniadau, sy'n llawn blodau gwyllt ac yn adlewyrchu'r tymhorau. O flodau llachar sy'n llawn llawenydd y gwanwyn, hyd at gynhesrwydd euraid yr hydref - câf ddod â naws pob tymor i gartrefi a chalonnau pobl. 
 

bottom of page